Y Pwyllgor Deisebau |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 7 Hydref 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.00 - 10.17 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r
cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: MeetingTitle |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
William Powell (Cadeirydd) Russell George Bethan Jenkins Joyce Watson |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
||||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Steve George (Clerc) Kayleigh Driscoll (Dirprwy Glerc) Kath Thomas (Dirprwy Glerc) Matthew Richards (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
View the meeting transcript.
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Cadeirydd bawb i gyfarfod y Pwyllgor. Ni chafwyd ymddiheuriadau.
2 Deisebau newydd
2.1 P-04-600 Deiseb i achub y gwasanaeth meddygon teulu
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ei farn am y ddeiseb.
2.2 P-04-601 Gwaharddiad Arfaethedig ar Ddefnyddio e-sigaréts Mewn Mannau Cyhoeddus
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ei farn am y ddeiseb.
3 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
3.1 P-04-541 Cefnogaeth i’r Mentrau Iaith
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd:
· i ysgrifennu at Y Prif Weinidog, yn unol â chais y deisebwyr, yn gofyn iddo gynnal asesiad annibynnol o’r adnoddau sydd eu hangen ar y Mentrau Iaith i’w gweithredu i’w llawn botensial; ac
· i aros am ymateb y Prif Weinidog cyn ystyried a ddylid gwahodd y deisebwyr i fynychu cyfarfod y Pwyllgor i egluro eu pryderon.
3.2 P-04-487 Cynllun benthyg blaendal Llywodraeth Cymru i’r rheini sy’n prynu tŷ am y tro cyntaf yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau pellach gan y deisebwyr.
3.3 P-04-511 Cefnogi’r safonau cyfranogaeth plant a phobl ifanc
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· ofyn am farn Plant yng Nghymru ar beth maent yn bwriadu ei wneud i ddatblygu’r gwaith yn y maes hwn o dan y Grant Cyflawni Plant a Theuluoedd; a
· gofyn i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi pa gamau gweithredu sydd wedi’u cymryd o ran argymhellion o Adroddiad Terfynol yr Uned Gyfranogi.
3.4 P-04-529 Ombwdsmon Asiantaethau Gosod Tai ar gyfer Cymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
3.5 P-04-573 Galwad ar Lywodraeth Cymru i Ymchwilio i’r System Lesddaliadau Preswyl yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i’r Gweinidog ymateb i sylwadau’r deisebwyr, yn arbennig ynghylch effaith bosibl ar niferoedd llai o aelwydydd a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am ganlyniad adroddiad LEASE.
3.6 P-04-597 Diogelu dyfodol Draig Ffynci, Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i drefnu sesiwn dystiolaeth lafar mewn lleoliad anffurfiol gyda’r Ddraig Ffynci, y Comisiynydd Plant, Plant yng Nghymru a chynrychiolydd o Gomisiwn y Cynulliad i geisio gweld a ellir canfod ffordd i ddarparu llwyfan cynrychioliadol cenedlaethol parhaus ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru.
3.7 P-03-315 Deiseb i gael croesfan newydd dros Afon Dyfi
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· ofyn am sylwadau pellach gan y deisebydd; a
· gofyn am wybodaeth bellach gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth ar oblygiadau’r trefniadau cyllideb newydd.
3.8 P-04-507 Mesur iawnderau yng Nghymru ar gyfer menywod a merched: ymlynu wrth y Confensiwn Rhyngwladol ar Ddiddymu Gwahaniaethu o bob math yn Erbyn Menywod (CEDAW)
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau’r ddeiseb o ystyried yr anallu i ddatblygu’r ddeiseb gyda’r prif ddeisebydd.
3.9 P-04-397 Cyflog Byw
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· ofyn am sylwadau pellach gan y deisebydd; a
· ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn am sicrwydd y bydd y mater yn cael ei drafod yng nghyfarfod Cyngor Partneriaeth y Gweithlu ym mis Rhagfyr.
3.10 P-04-445 Achub ein cŵn a chathod yng Nghymru rhag cael eu lladd ar y ffyrdd
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i anfon sylwadau pellach a gwahoddiad y deisebydd ymlaen at y Gweinidog a’i swyddogion a gofyn am gael gwybod y wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau.
3.11 P-04-533 Cynllunio Amgylcheddol ar gyfer Safleoedd Tyrbinau Gwynt ar Raddfa Fach
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol newydd am ei farn am sylwadau’r deisebydd.
3.12 P-04-537 Plannu Coed i Leihau Llifogydd
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau pellach gan y deisebwyr.
3.13 P-04-575 Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· ofyn am farn y Gweinidog am sylwadau’r deisebwyr;
· ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd gan roi sylw i’r ddeiseb; ac
· anelu at gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad fel y gellir trafod y mater yn y Cyfarfod Llawn yn unol â chais y deisebwyr.
3.14 P-04-458 Cadwch Addysg Bellach yn y Sector Cyhoeddus
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau pellach gan y deisebydd.
3.15 P-04-485 Camddefnyddio contractau dros dro yn y sector Addysg Bellach
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog am ei farn am y sefyllfa bresennol; ac yna
· aros am ganlyniadau’r adolygiad am y sefyllfa ym mis Ebrill 2015.
3.16 P-04-518 Ciniawau ysgol am ddim yn gyffredinol
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· ofyn am farn bellach gan y Gweinidog yn sgil sylwadau’r deisebydd; a
· gwneud penderfyniad ynghylch cau’r ddeiseb.
3.17 P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau pellach gan y deisebydd.
3.18 P-04-452 Hawliau Cyfartal i Bobl Ifanc Tiwb-borthedig
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
3.19 P-04-466 Argyfwng Meddygol – Atal cyflwyno gwasanaeth iechyd o safon is yng ngogledd Cymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau pellach gan y deisebydd.
3.20 P-04-479 Deiseb Adran Pelydr-X ac Uned Mân Anafiadau Ysbyty Tywyn
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i’r Bwrdd Iechyd ymateb i’r pwyntiau a wnaed ar ran y deisebwyr.
3.21 P-04-552 Diogelu Plant
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau pellach gan y deisebydd.
3.23 P-04-500 Galw am Reoleiddio Sefydliadau Lles Anifeiliaid yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am ymateb pellach y Gweinidog.
3.24 P-04-535 Achubwch ein Gorsafoedd Tân
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· ofyn am sylwadau pellach gan y deisebwyr; a
· gofyn am ymateb am ohebiaeth y Pwyllgor sydd heb ei hateb.
3.25 P-04-554 Polisi swyddogol gan Lywodraeth Cymru sy’n gwahardd sefydliadau hyfforddi nad ydynt yn dryloyw rhag gweithio mewn cyrff cyhoeddus.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau’r ddeiseb.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer gweddill y cyfarfod
The motion was agreed.
3.22 P-04-564 Adfer Gwlâu i Gleifion, Gwasanaeth Mân Anafiadau ac Uned Pelydr-X i Ysbyty Coffa Ffestiniog
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i’r Gweinidog a’r Bwrdd Iechyd ystyried ac ymateb i farn y deisebwyr a nodwyd yn eu sylwadau, yn enwedig mewn perthynas â’r adroddiad a gynigiwyd gan yr Athro Marcus Longley.
5 Gweithdrefnau’r Pwyllgor ar gyfer Trafod Deisebau
Ystyriodd y Pwyllgor weithdrefnau ar gyfer ystyried deisebau.